Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2022
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022
(5 munud)
NDM8133 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
4 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon
(45 munud)
NDM8132 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Protocol Gogledd Iwerddon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
5 Cyfnod pleidleisio
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol
(30 munud)
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid: Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf
(30 munud)
8 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl
(30 munud)
9 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
(30 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2022